P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Isabella Evans, ar ôl casglu 4,914 o lofnodion ar-lein a 110 ar bapur, sef cyfanswm o 5,024 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb:          

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried defnyddio iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru.

 

Rydw i'n chwaer 13 mlwydd oed i fachgen bach sydd â Syndrom Down, sy'n defnyddio iaith Makaton yn bennaf. Rwyf wedi dysgu iaith arwyddion Makaton er mwyn cyfathrebu â fy mrawd, ac oherwydd hyn, penderfynais sefydlu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i helpu pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg i ddysgu. Roedd yn syndod i mi weld cymaint o alw gan bobl sydd am ddysgu Makaton er mwyn cyfathrebu â ffrindiau ac aelodau teulu sydd ag anawsterau dysgu.

 

Credaf y dylai gael ei gynnwys ym mhob ysgol yng Nghymru ochr yn ochr ag addysgu bob dydd er mwyn caniatáu i bob plentyn ddysgu i gyfathrebu drwy'r dull hwn.

 

Rwy'n angerddol dros gyflawni hyn ac yn credu ei fod yn hawl sylfaenol i bob plentyn yng Nghymru ddysgu Makaton er mwyn chwalu rhwystrau a chamsyniadau, a sicrhau cynhwysiant gwirioneddol yng Nghymru.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​Mae llawer o ymchwil wedi cael ei wneud i brofi pa mor effeithiol yw defnyddio symbolau ac arwyddion er mwyn cynorthwyo pobl i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd. Mae canfyddiadau ymchwil presennol yn cefnogi'r defnydd o iaith arwyddion gydag oedolion a phlant sydd ag anawsterau deallusol a chyfathrebu.

 

Mae astudiaeth hefyd sy'n archwilio'r graddau y mae dysgu iaith arwyddion ochr yn ochr ag iaith dramor yn ystod gwersi ieithoedd tramor modern yn helpu i gefnogi'r eirfa ar lafar sy'n aros yn y cof.

Mae llawer o bapurau ymchwil wedi'u cyhoeddi sy'n cefnogi defnyddio Makaton, gan gynnwys:-

 

- Birket, E.M. (1984)

- Colema, A. (2014)

- Cornforth, A.R.T., Johnson, K. Walker, M. (1974)

- Ford, J. (2006)

- Francis. (2000)

- Grove, N. (1980)

- Powell, G. (1999)

- Reed, A. (2014)

- Sheehy, K. Duffy, H. (2009)

- Volpato, D. ,Orton, D. and Blackburn, D. (1986)

- Walker, M. Armfield, A. (1981)

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Pen-y-bont ar Ogwr

·         Gorllewin De Cymru